PWYNTIAU HWRDD
Pen |
Gwrywaidd, cymhedrol o faint, yn culhau tua’r trwyn. Pen llawn yn enwedig y talcen a than y llygaid. Lled da rhwng y cyrn (lled dau neu dri bys), ffroen ddu heb fod yn rhy lydan. Dim gwlan ar y talcen na’r bochau. Hyd cymhedrol o’r llygaid i’r ffroen, gên gref a dofn. |
Dannedd |
Llydan, ddim yn rhy hir, ac yn sownd |
Clust |
Cymhedrol o drwch a hyd, gogwyddo I fyny (ar steil clust ceffyl). |
Llygaid |
Mawr a bywiog, lled da rhwng y ddwy, heb fod yn rhy agos i’r corn. |
Corn |
Lled da rhwng y ddau gorn, ddim yn codi i fyny ac yn dod i lawr a thro da ynddynt. Maint cymhedrol ac ysgafn, amcanu at liw melyn hyd yn bosibl. Tra yn cymeradwyo corn, ni ddylid gwrthod hwrdd da am ei fod yn foel. |
Gwddf |
Hyd cymhedrol a chryf ac yn asio yn dda ar y frest. |
Ysgwydd |
Crwn, llawn, cryf ac yn asio yn dda i’r cefn. Dim colliant tu ôl i’r ysgwydd, yn cario yn dda o’r gwar. |
Brest |
Llydan, dwfn, ac yn llaes; dod ymlaen yn dda. |
Cefn |
Yn gryf, byr, yn cario yn dda o’r ysgwydd i’r lwyn, yn wastad ac yn llawn. |
Asen |
Dwfn a digon o fwa ynddi i sicrhau digon o gylchfesur i’r galon. |
Llwyn |
Llydan, llawn, ac yn gryf, yn fyr o’r asen i ben y glun. |
Crwper |
Yn llydan, a hyd da o’i hip i fôn y gynffon, ac i gario yn dda. |
Cynffon |
Llawn, yn ychydig is na’r gar, bloran y gynffon yn gron – yn llawn, ac yn gryf ym môn y gynffon. Gwlaniad garw (asio yn dda i’r crwper). |
Clun |
Llydan, i ddod i lawr yn dda i’r gaer, a gwlan garw arni. |
Tor |
Yn llydan, ac yn wlanog. Cwd ddim i gario hyd y bol, nac i hollti. |
Asgwrn |
Cymhedrol a phlygiad da yn y goes, llydan a fflat (tebyg i argwrn ceffyl). |
Troed |
Ewinedd duon, y carn yn galed a’r gwaden yn llydan. |
Croen |
Pinc. |
Coes |
Hyd gymhedrol o’r goes i’r cymal, dim gwlan i fod ar y coesau is na’r cymal. |
Lliw |
Melyn, lliw hufen neu sofren a spotia gwyn. |
Gwlan |
Cnu trwchus a digon o hyd ynddo, grymus ei afael, gwlyddyn neu fargoed yn dod trwyddo. Lliw gwyn, ond ni chondemnir cochin yn y gwar a’r gynffon. |
Ymddangosiad |
Cydnerth, solat, yn cerdded yn ysgafn a bywiog ac yn dal ei ben I fyny yn wyllt. |
Pwyntiau i’w gochel.
Gwlan coch, rhywiog, byr yn llyfn fel mat, bras a llac, a dau fath o wlan, rhywiog ymlaen a garw yn ôl, a gwlan byr, called ar y lwyn. Lliw coch trwm neu wyn fel lard, gwlan ar y talcen a pant.
Cyrn yn cychwyn gyda’u gilydd o’i bôn, ac yn codi I fyny yn uchel. Colliant tu ôl i’r ysgwydd, asen slip a chrwper slip, asgwrn main. Cefn, pen gwddw a chynffon hir.